Dewch i ddathlu bwyd Cymreig yn ystod Wythnos Gŵyl Ddewi gyda phryd bwyd pedwar cwrs o gig eidion Celtic Pride, bwyd môr a llysiau Cymreig. Mae'n hanfodol i gadw lle, felly ffoniwch 01792 463980 nawr.
Llun plentyn am ddim
Prynwch nwyddau Cymreig lleol ym Marchnad Abertawe ddydd Iau, 26 Chwefror a chael llun o'ch plentyn mewn gwisg Gymreig wedi'i dynnu AM DDIM ar yr un pryd.
Gŵyl Fwyd Cynnyrch o Gymru
Mae'r South Wales Evening Post, ar y cyd â Dinas a Sir Abertawe a BID Abertawe, yn cynnal eu trydedd Ŵyl Fwyd a Diod yn Sgwâr y Castell ar ddydd Sadwrn, 29 Chwefror rhwng 9am a 5pm. Bydd siopwyr yn dod o hyd i rai o'r bwydydd gorau yng Nghymru gan gynnwys gwinoedd, cigoedd, cynnyrch llaeth, ffrwythau a llysiau o'r radd flaenaf.
Blas ar y Mwmbwls
Ar ddydd Sadwrn, 28 Chwefror, bydd cogyddion yn ymuno â'i gilydd yng Nghanolfan Ostreme, y Mwmbwls, i roi blas go iawn ar y Mwmbwls. Mae'n rhan o Benwythnos Gŵyl y Ddraig Dydd Gŵyl Ddewi, gyda cherddoriaeth, adloniant stryd a Gorymdaith y Ddraig.
Mae nifer eraill o weithgareddau yn digwydd i ddathlu Wythnos Gŵyl Ddewi, o Ddiwrnod Cymreig gyda'r Elyrch yn Stadiwm Liberty i The Storys yn chwarae yn Neuadd Brangwyn.
Ewch i http://www.dyddgwyldewi.com am ragor o fanylion.
# # #
News about activities, events and attractions in Swansea, Wales, UK.
Includes offers and information about leisure centres, gyms and sport; also museums, galleries, parks, shows and events in Swansea.